Mae'r pwnc hwn yn trin a thrafod y llwybrau gwahanol sydd ar gael i fyfyrwyr, manteision mynd i'r brifysgol, mynd i'r afael â chamsyniadau ynglŷn â’r brifysgol, yn ogystal â thrin a thrafod yr hyn sydd ar gael iddyn nhw. Bydd y gweithdy yn caniatáu i fyfyrwyr ddylunio eu gradd eu hunain, archwilio pwysigrwydd gofynion mynediad, cynnwys y cwrs a swyddi yn y dyfodol.
Rydym yn cynnig dwy sgwrs yn archwilio opsiynau TGAU ac yn archwilio ai 6ed dosbarth neu Goleg yw’r llwybr cywir i’ch myfyrwyr. Edrychwn ar pam mae’r penderfyniadau hynny’n bwysig a sut y gallai gwahanol ddewisiadau arwain at lwybrau lluosog. Bydd y gweithdy yn caniatáu i’r myfyrwyr ystyried eu gyrfaoedd yn y dyfodol, gan ymchwilio i ba raddau, cymwysterau, a phrofiadau sydd eu hangen ar gyfer gwahanol broffesiynau.
Gan gyfuno dwy o’n sesiynau mwyaf poblogaidd, ‘Sgiliau astudio ac adolygu’ a ‘Meithrin gwytnwch a rheoli eich iechyd meddwl’, mae’r sesiwn hon yn cynnig cyngor i ddisgyblion ynglŷn ag astudio effeithiol a sut i reoli astudiaethau er mwyn lleihau straen. Bydd hanner cyntaf y sesiwn yn canolbwyntio ar dechnegau astudio i helpu disgyblion i ganolbwyntio cyn edrych ar sut mae modd i arferion astudio iach arwain at feddwl iach, a phwysigrwydd gwytnwch yn yr ystafell ddosbarth a thu hwnt iddi.
Mae'r sesiwn hon yn mynd i'r afael â chamdybiaethau cyffredin prifysgol ac yn cael myfyrwyr i gymryd rhan mewn ffordd ymarferol i ddechrau meddwl am fynd i'r brifysgol.
Po gynharaf y byddwn yn siarad â myfyrwyr am brifysgol, y mwyaf tebygol y byddant o gael mynediad i addysg uwch.
Mae'r gweithdy a/neu'r cyflwyniad hwn yn edrych ar gynllunio a chyllidebu ar gyfer bywyd yn y brifysgol, a bydd y pwyslais ar wariant yn wythnosol ac yn fisol. Mae hefyd yn ystyried y ffyrdd gwahanol y gellir ariannu mynd i’r brifysgol.
Dyma'r pwnc perffaith i fyfyrwyr sy'n mwynhau chwaraeon a/neu wyddoniaeth. Ei nod yw dangos i ddisgyblion bod ystod enfawr o raddau sy’n gysylltiedig â byd chwaraeon y gallwch eu hastudio yn y DU, ac mae’r gofynion o ran ystod y graddau ar gyfer mynediad yn hygyrch iawn.
Mae'r sgwrs hon yn berffaith i fyfyrwyr sydd ar fin dewis eu cyrsiau TGAU, Lefel-A, neu Brifysgol oherwydd ei fod yn edrych ar yr amrywiaeth o resymau dros astudio ieithoedd. Gallwn ddod i mewn i siarad â grwpiau blwyddyn cyfan, neu ddosbarthiadau llai.
Mae gennym gynnig newydd sbon ar gyfer myfyrwyr TGAU Sbaeneg a Ffrangeg sydd eisiau mwy o ymarfer siarad! Mae ein Swyddog Sioe Deithiol AU yn siarad Ffrangeg a Sbaeneg yn rhugl ac mae'n cynnig gweithdai ymarfer siarad am ddim i'ch disgyblion. Rydym yn awyddus i greu partneriaethau gyda rhai ysgolion lleol sydd o fewn awr o yrru i Gaerdydd. E-bostiwch heroadshow@cardiff.ac.uk os ydych chi eisiau gwybod mwy ac i ofyn am daflen yn manylu ar yr holl wybodaeth. *Mae hyn ddim ar gael, ar hyn o bryd.
Bydd y sesiwn hon yn annog eich myfyrwyr i ystyried y Gymraeg fel opsiwn astudio a bydd yn manylu ar holl fanteision dysgu'r Gymraeg.
Anfonwch e-bost atom i ofyn am gael gweld ein trwydded.
Mae ein sesiwn ‘Tu hwnt i’r ystafell ddosbarth’ yn mynd i’r afael â phwysigrwydd gweithgareddau allgyrsiol ac uwchgyrsiol. Bydd y sesiwn yn helpu disgyblion i ddeall y gwahaniaeth rhwng y gweithgareddau hyn a sut gall gweithgareddau allgyrsiol ac uwchgyrsiol fod o fudd iddynt. Bydd y sesiynau’n ysgogi disgyblion i feddwl am y gweithgareddau maent eisoes yn ymgymryd â nhw a deall y cysylltiad rhwng y gweithgareddau hyn a’r sgiliau mae prifysgolion a chyflogwyr yn chwilio amdanynt. Byddwn yn trafod cyfleoedd sydd ar gael yn y brifysgol megis lleoliadau gwaith a rolau Llysgenhadon Myfyrwyr er mwyn annog disgyblion i edrych y tu hwnt i’w arholiadau TGAU a meddwl am y cyfleoedd sydd o’u blaenau.
Mae’r sesiwn wedi’i chynllunio i ddangos buddion y Dystysgrif Her Sgiliau a’r Fagloriaeth Sgiliau Uwch i ddisgyblion. Bydd y sesiwn yn trafod y sgiliau gwerthfawr y byddant yn eu hennill trwy’r cymhwyster a fydd yn cyfrannu’n gadarnhaol at eu haddysg yn y dyfodol a chyfleoedd cyflogaeth, gan ganolbwyntio ar fuddion yn y byd go iawn. Byddwn hefyd yn trafod camsyniadau cyffredin sy’n ymwneud â’r Dystysgrif Sgiliau er mwyn ceisio cymell disgyblion i feddwl am y cymhwyster yn rhan gadarnhaol o’u haddysg yn hytrach na rhywbeth anghyfleus.
Update your browser to view this website correctly. Update my browser now