Sgyrsiau

Beth yw AU?
Archebwch yma

Mae'r pwnc hwn yn trin a thrafod y llwybrau gwahanol sydd ar gael i fyfyrwyr, manteision mynd i'r brifysgol, mynd i'r afael â chamsyniadau ynglŷn â’r brifysgol, yn ogystal â thrin a thrafod yr hyn sydd ar gael iddyn nhw. Bydd y gweithdy yn caniatáu i fyfyrwyr ddylunio eu gradd eu hunain, archwilio pwysigrwydd gofynion mynediad, cynnwys y cwrs a swyddi yn y dyfodol.

Gwneud y dewisiadau TGAU neu Safon Uwch cywir
Archebwch yma

Rydym yn cynnig dwy sgwrs yn archwilio opsiynau TGAU ac yn archwilio ai 6ed dosbarth neu Goleg yw’r llwybr cywir i’ch myfyrwyr. Edrychwn ar pam mae’r penderfyniadau hynny’n bwysig a sut y gallai gwahanol ddewisiadau arwain at lwybrau lluosog. Bydd y gweithdy yn caniatáu i’r myfyrwyr ystyried eu gyrfaoedd yn y dyfodol, gan ymchwilio i ba raddau, cymwysterau, a phrofiadau sydd eu hangen ar gyfer gwahanol broffesiynau.

Meddyliau cryf, astudio craff
Archebwch yma

Gan gyfuno dwy o’n sesiynau mwyaf poblogaidd, ‘Sgiliau astudio ac adolygu’ a ‘Meithrin gwytnwch a rheoli eich iechyd meddwl’, mae’r sesiwn hon yn cynnig cyngor i ddisgyblion ynglŷn ag astudio effeithiol a sut i reoli astudiaethau er mwyn lleihau straen. Bydd hanner cyntaf y sesiwn yn canolbwyntio ar dechnegau astudio i helpu disgyblion i ganolbwyntio cyn edrych ar sut mae modd i arferion astudio iach arwain at feddwl iach, a phwysigrwydd gwytnwch yn yr ystafell ddosbarth a thu hwnt iddi.  

A yw'r Brifysgol yn werth chweil?
Archebwch yma

Mae'r sesiwn hon yn mynd i'r afael â chamdybiaethau cyffredin prifysgol ac yn cael myfyrwyr i gymryd rhan mewn ffordd ymarferol i ddechrau meddwl am fynd i'r brifysgol. 

Po gynharaf y byddwn yn siarad â myfyrwyr am brifysgol, y mwyaf tebygol y byddant o gael mynediad i addysg uwch. 

Talu am y brifysgol / Cyllidebu
Archebwch yma

Mae'r gweithdy a/neu'r cyflwyniad hwn yn edrych ar gynllunio a chyllidebu ar gyfer bywyd yn y brifysgol, a bydd y pwyslais ar wariant yn wythnosol ac yn fisol. Mae hefyd yn ystyried y ffyrdd gwahanol y gellir ariannu mynd i’r brifysgol.

Cyflwyniad i Raddau Chwaraeon yn y Brifysgol
Archebwch yma

Dyma'r pwnc perffaith i fyfyrwyr sy'n mwynhau chwaraeon a/neu wyddoniaeth. Ei nod yw dangos i ddisgyblion bod ystod enfawr o raddau sy’n gysylltiedig â byd chwaraeon y gallwch eu hastudio yn y DU, ac mae’r gofynion o ran ystod y graddau ar gyfer mynediad yn hygyrch iawn. 

Pam Dewis Ieithoedd ar gyfer TGAU neu ymhellach?
Archebwch yma

Mae'r sgwrs hon yn berffaith i fyfyrwyr sydd ar fin dewis eu cyrsiau TGAU, Lefel-A, neu Brifysgol oherwydd ei fod yn edrych ar yr amrywiaeth o resymau dros astudio ieithoedd. Gallwn ddod i mewn i siarad â grwpiau blwyddyn cyfan, neu ddosbarthiadau llai.   

 

Mae gennym gynnig newydd sbon ar gyfer myfyrwyr TGAU Sbaeneg a Ffrangeg sydd eisiau mwy o ymarfer siarad! Mae ein Swyddog Sioe Deithiol AU yn siarad Ffrangeg a Sbaeneg yn rhugl ac mae'n cynnig gweithdai ymarfer siarad am ddim i'ch disgyblion. Rydym yn awyddus i greu partneriaethau gyda rhai ysgolion lleol sydd o fewn awr o yrru i Gaerdydd. E-bostiwch heroadshow@cardiff.ac.uk os ydych chi eisiau gwybod mwy ac i ofyn am daflen yn manylu ar yr holl wybodaeth. *Mae hyn ddim ar gael, ar hyn o bryd.

Datgloi Eich Dyfodol: Manteision Dysgu Cymraeg
Archebwch yma

Bydd y sesiwn hon yn annog eich myfyrwyr i ystyried y Gymraeg fel opsiwn astudio a bydd yn manylu ar holl fanteision dysgu'r Gymraeg.

 

Anfonwch e-bost atom i ofyn am gael gweld ein trwydded.

Tu hwnt i'r ystafell ddosbarth: Sgiliau sy’n sail i’ch dyfodol
Archebwch yma

Mae ein sesiwn ‘Tu hwnt i’r ystafell ddosbarth’ yn mynd i’r afael â phwysigrwydd gweithgareddau allgyrsiol ac uwchgyrsiol. Bydd y sesiwn yn helpu disgyblion i ddeall y gwahaniaeth rhwng y gweithgareddau hyn a sut gall gweithgareddau allgyrsiol ac uwchgyrsiol fod o fudd iddynt. Bydd y sesiynau’n ysgogi disgyblion i feddwl am y gweithgareddau maent eisoes yn ymgymryd â nhw a deall y cysylltiad rhwng y gweithgareddau hyn a’r sgiliau mae prifysgolion a chyflogwyr yn chwilio amdanynt. Byddwn yn trafod cyfleoedd sydd ar gael yn y brifysgol megis lleoliadau gwaith a rolau Llysgenhadon Myfyrwyr er mwyn annog disgyblion i edrych y tu hwnt i’w arholiadau TGAU a meddwl am y cyfleoedd sydd o’u blaenau.

Manteision y Fagloriaeth: Grymuso dysgwyr Cymru
Archebwch yma

Mae’r sesiwn wedi’i chynllunio i ddangos buddion y Dystysgrif Her Sgiliau a’r Fagloriaeth Sgiliau Uwch i ddisgyblion. Bydd y sesiwn yn trafod y sgiliau gwerthfawr y byddant yn eu hennill trwy’r cymhwyster a fydd yn cyfrannu’n gadarnhaol at eu haddysg yn y dyfodol a chyfleoedd cyflogaeth, gan ganolbwyntio ar fuddion yn y byd go iawn. Byddwn hefyd yn trafod camsyniadau cyffredin sy’n ymwneud â’r Dystysgrif Sgiliau er mwyn ceisio cymell disgyblion i feddwl am y cymhwyster yn rhan gadarnhaol o’u haddysg yn hytrach na rhywbeth anghyfleus. 

Ruler.svg
  • slide
  • slide
  • slide
Your browser is out-of-date!

Update your browser to view this website correctly. Update my browser now

×